Sefydlwyd Côr Meibion Bro Aled yn 1976, er mwyn cystadlu yng Ngŵyl Gerdd Dant, Cymru a gynhaliwyd yn Llansannan y flwyddyn honno. Roedd parti cerdd dant bychan wedi ei ffurfio gan Mair Selway o blith aelodau cymdeithas y dynion, Cylch Aled, Llansannan, ond ar gyfer cystadlu yn yr Ŵyl daeth y parti yn gôr. Rhoddodd gyfraniad digon derbyniol yn yr wyl a mwynhaodd yr aelodau’r profiad.
Cynyddodd y nifer wedyn nes dod yn 40 o aelodau, ac yn ddiddorol iawn arhosodd oddeutu’r deugain hyd heddiw, ond gadawyd y pwyslais cerdd dant. . Mae gennym erbyn hyn gantorion o ardal sy’n ehangach na Bro Aled, ac yn ymestyn o Lanrwst yn Nyffryn Conwy i Landyrnog, Dyffryn Clwyd, a chawn ymarfer bob nos Iau yng Nghanolfan Addysg Bro Aled, Llansannan. Cawn hwyl wrth ymarfer a pharatoi ar gyfer cynnal cyngherddau, cystadlu mewn eisteddfodau a chefnogi achosion teilwng. Rydym yn hynod o brysur ac wedi teithio’n helaeth fel côr ym Mhrydain a thramor, ar wyliau, ac i gynnal cyngherddau. Canmolir ein harweinydd yn aml am y rhaglen ddiddorol a gyflwynir gan y côr. Mae gennym raglen llawn amrywiaeth o ganeuon ffres, bywiog a dwys, yn Gymraeg a Saesneg yn bennaf, ac rydym yn ffodus iawn fod gennym unawdwyr ardderchog o blith yr aelodau, a hynny’n ein galluogi i gynnal cyngerdd gyda’n doniau ein hunain.
Uchafbwynt y flwyddyn yw’n cyngerdd blynyddol yng Nghanolfan Llansannan ar y Sadwrn cyntaf yn Nhachwedd pan fyddwn yn trefnu ein bod yn cael y fraint o rannu llwyfan gyda rhai o gantorion enwocaf Cymru, a chael y neuadd yn orlawn bob blwyddyn.
Mae Côr Meibon Bro Aled yn gôr Cymraeg, cyfeillgar sy’n hyrwyddo’n iaith a’n diwylliant.
Mair Selway sydd wedi arwain y côr ers 1976 yn ei ffordd ddihafal, dawnus a brwdfrydig. Rydym yn falch o gael wasanaeth ardderchog Ann Evans yn gyfeilyddes ers 1976 ac Annwen Mair ALCM hefyd yn gyd-gyfeilyddes dalentog dros ben i’r côr ers 1988. Bellach mae Angharad Ellis o Gerrig y Drudion yn arwain y côr.